Hanes yr Achos
Mae gwreiddiau'r Capel Mawr yn mynd yn ôl i'r ddeunawfed ganrif. O 1741 fe ddechreuodd pregethwyr Calfinaidd wneud eu ffordd i Ddinbych a chyn bo hir yr oedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal yn, ac ar ymylon y dref, llawer ohonynt mewn hen sgubor. Erbyn 1793 yr oedd y gynulleidfa wedi gordyfu'r adeilad hwn. Fe benderfynasant ddymchwel yr ysgubor ac adeiladu capel yn ei lle. Dim ond 30 troedfedd sgwâr yr oedd yn mesur.
Roedd tŵf y mudiad yn Ninbych yn aruthrol. Fe gafodd y capel gwreiddiol ei ymestyn yn 1805 ac eto yn 1813. Yn 1829 fe adeiladwyd adeilad cwbl newydd ar y safle, sylfaen y capel presennol.
Mae wedi ei adeiladu i gynllun oedd yn gyffredin ar y pryd ond a gollodd ei boblogrwydd, sef adeilad petryal hir, gyda drysau ar bob pen i'r waliau hiraf, a'r pulpud rhwng y drysau. Ffynhonnell y cynllun oedd yr ygubor mewn cae le y bu i lu o gynulleidfaoedd Methodistiaid Calfinaidd, gan gynnwys y Capel Mawr, ddechrau eu bywyd. Fe aeth drwy amryw o newidiadau, ac fe gafodd yr adeilad gwreiddiol ar lun ysgubor ei addurno mewn arddull Eidalaidd ochelgar.
Fe gafodd y Capel Mawr ei newid yn 1857-1860, ac eto yn 1879-1880, pan symudwyd y pulpud i'w safle presennol ac yr adeiladwyd y cyntedd sgwâr. Fe gafodd yr ysgoldy ei hadeiladu yn 1892 ac yn 1905 fe adeiladwyd ac fe osodwyd yr organ gan Alex Young a'i Feibion, Manceinion.
Mae nifer o bobl enwog yn gysylltiedig â'r Capel Mawr:
Thomas Edwards "Twm o'r Nant" (1739-1810) bardd, awdur anterliwtiau
Thomas Gee (1815-1898) argraffydd, cyhoeddwr, gweinidog,gwleidydd, dadleuwr. Mae ei argraffdy, Gwasg Gee heb fod nepell o'r capel.
David Lloyd George (1863-1945) - gwleidydd, arweinydd rhyfel, cynllunyd diwygiad cymdeithasol. Fe anerchodd Lloyd George gyfarfod enfawr yn Y Capel Mawr yn ystod etholiad cyffredinol 1906, pan enillodd ef a'r Rhyddfrydwyr fuddugoliaeth ysgubol.
Thomas Jones (1756-1820) - awdur, bardd, pregethwr; yn gofalu am y Capel Mawr o 1806 - 1820. Calfin cymedrol, un o'r Gweinidogion cyntaf i gael ei ordeinio yn dilyn y rhwyg â'r Eglwys Sefydliedig yn 1811.
John Roberts y Cantwr Mawr (1806-1879) - emynydd a cherddor.
Kate Roberts (1891- 1985) un o nofelwyr ac awdur straeon byrion Cymraeg mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif.
Gwilym R Jones (1903-1993)
Un o addolwyr enwocaf y Capel Mawr oedd Gwilym R Jones y llenor, mab i chwarelwr o Ddyffryn Nantlle. Bu'n olygydd y Faner yng Nghwasg Gee ac enillodd y Goron yn Lerpwl (1935), y Gadair yng Nghaerdydd (1938) a'r Fedal Ryddiaeth yn Hen Golwyn (1942).
Mathonwy Hughes (1905 - 1999)
Yn enegigol o Ddyffryn Nantle fel ei gyfaill Gwilym R Jones. Ugain oed oedd Mathonwy pan enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod Tal-y-Sarn. Enillodd dair cadair yn y flwyddyn hon, ac un arall pan oedd yn 22 oed. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol 1956, a chyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth, pedwar casgliad o ysgrifau, cyfrol o hunangofiant a chyfrol deyrnged i Gwilym R. Jones. Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd ei ymddeoliad ym 1979, ac yn aelod brwdfrydig, fel myfyriwr a darlithydd, o Fudiad Addysg y Gweithwyr.