Eglwys Bresbyteraidd - Y Capel Mawr, Dinbych 

DOLEN

CYLCHGRAWN EGLWYS Y CAPEL MAWR A SEION, DINBYCH

     Gweinidog:

  Golygydd: Mr Stanley Lyall  Ionawr 2009 Rhif 254

 .............................................................................................................................................................    

Blwyddyn Newydd Dda i Bawb Ohonoch!

 

 

Ar ddechrau blwyddyn edrychwn ymlaen yn llawn gobaith am gyfnod gwell yn ein bywydau. Yn wir, os bu’r cyfnod blaenorol yn un trafferthus ein tueddiad ydyw dyheu am dro ar fyd gan fynegi’r geiriau, “Ni  all pethau fod fawr gwaeth arnom na’r llynedd.”

  

Digon tebyg ydyw hi yn hanes yr Eglwys Bresbyteraidd. Wrth i niferoedd aelodau eglwysig leihau yn gyffredinol yng Nghymru mae’n frawychus cael ar ddeall i gapeli’r Hen Gorff yn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd  golli dros 200 o aelodau yn ddiweddar. Y mae hynny yn cyfateb i  ddiflaniad llwyr dros nos fel petai  un o eglwysi mwyaf  yr Henaduriaeth - megis Y Capel Mawr!

  

Ni wyddys faint o’r nifer hwn sy’n bobl wedi cilio, wedi mudo o’r ardal neu wedi’u colli trwy farwolaeth, ond yn sicr y mae’n  destun pryder. Yn yr un modd ag y mae prinder ymgeiswyr ar gyfer y Weinidogaeth yn achosi gofid yn genedlaethol.

  

Beth ellir ei wneud i adfer y dirywiad? Bwriad yr Eglwys ydyw ail-strwythuro’i hunan gan grynhoi adnoddau eglwysig mewn ardaloedd arbennig a thrwy hynny wella a moderneiddio’r ddarpariaeth. Yn lleol yn bendant y mae yna awydd cryf i weld cydweithio rhwng eglwysi ac y mae yna ddatblygiadau amlwg wedi bod yn ddiweddar rhwng yr eglwys hon a’n chwaer eglwys yn Y Fron. Yn y dyfodol gobeithir gweld mwy o eglwysi yn yr ardal hon yn cydweithio, yn arbennig gyda golwg ar gyfarfodydd yr hwyr, gan ddarparu digwyddiadau  gwahanol i’r oedfaon arferol.

  

Bellach y mae gennym yn Y Capel Mawr adnoddau technolegol a all weddnewid a bywiogi ein hoedfaon. Daeth yr adnoddau hyn inni drwy weledigaeth a charedigrwydd Mr David Jones, Gwenallt, a’r her inni ydyw gwneud yn fawr ohonynt.  Yn sicr, dengys y datblygiadau hyn nad ydym yn aros yn ein hunfan yn Nyffryn Clwyd nac yn yr eglwys hon, a rhoddant inni’r hyder i wynebu 2009 gyda gobaith y gallwn wrthsefyll yr  apathi cyffredinol sydd o’n hamgylch.

  

TREFNIADAU MIS IONAWR

 

 

Llywydd y Mis:

 

Mrs Nerys Ann Roberts

  

Wrth y Drysau:

 

Mrs Siân Jones, Llwyn y Gôg

Mr Russell Jones,Llwyn y Gôg

Mr Dyfan Glyn Roberts, Erw Las

  

Casglyddion:

 

Mamau’r Ysgol Sul

  

Rhoddir y Blodau gan:

 

Ionawr 4  -  Mrs Nanw Griffith, Ardudwy, 5 Lôn Derwen

Ionawr 11 - Mrs Olwen Roberts, Felin Ganol,

                    a Mrs Meinir Roberts, Y Glyn

Ionawr 18 -  Mrs Ceinwen Mallon, 5 Erw Salusbury,

                     a Mrs Carys Powell, Tir y Dail

Ionawr 25 -  Mrs Helen Owen, Bryn, 2 Lôn Derwen

  

Llestri’r Cymun:

 

Mrs Dorothy Rogers, 51 Parc Mytton

 

Mrs Kitty Williams, Ceiriog,  Abbey Court

 

  

Llety’r Pregethwyr:

 

34 Ffordd Colomendy

  

CYHOEDDIADAU

 

MIS IONAWR

 

  

Dydd Sul, Ionawr 4

 

Oedfa’r bore dan ofal Y Parch. Cledwyn Parry, Dinbych.  Trefniant mewnol ar gyfer oedfa’r hwyr.

 

Dydd Llun, Ionawr 5

 

Cyfarfodydd Gweddi dechrau’r Flwyddyn. Y cyfarfod cyntaf dan ofal Cyfarfod Gweddi Cenhadol y Chwiorydd am 7 o’r gloch

  

Dydd Mawrth, Ionawr 6

 

Aelwyd y Chwiorydd am 1.30pm – Elen Lloyd a Llyr Jones yn sôn am waith Cam Wrth Gam

 

Dydd Mercher, Ionawr 7

 

Cyfarfodydd  Gweddi dechrau’r Flwyddyn. Yr Ail Gyfarfod am 7 o’r gloch

 

Dydd Gwener, Ionawr  9

 

Cyfarfodydd Gweddi dechrau’r Flwyddyn. Y cyfarfod olaf am 7 o’r gloch dan ofal y Gymdeithas Lên a Cherdd

 

  

Dydd Sul, Ionawr 11

 

Trefniadau mewnol

 

Dydd Llun, Ionawr 12

 

Cytûn -  Gwasanaeth Iachâu yn St Thomas am 7 o’r gloch

 

  

Dydd Sul, Ionawr 18

 

Mr Tom I. Williams, Dinbych

 

  

Dydd Mawrth, Ionawr 20

 

Aelwyd y Chwiorydd am 1.30pm – Mrs Rhiannon Rogers yn dangos ei gwaith llaw

  

Dydd Sul, Ionawr 25

 

Y Parch. John Owen, Rhuthun

 

Dydd Sadwrn, Ionawr 31

 

Bore Coffi yn y Festri -10am -11am. Yr elw at goffrau’r eglwys.

............................................................................................

COLLI AELOD

 

Yn ystos mis Rhagfyr bu inni golli un o’n haelodau hynaf, sef  Mr Dennis Williams, Pine Tree Court, gynt o Erw Salusbury. Hiraethwn amdano  a chydymdeimlwn â’i fab Ian, ei ferched Margot a Ruth a’u teuluoedd a chofiwn amdanynt yn ein gweddïau.

............................................................................................

  

PROFEDIGAETH

  

Yn ystod mis Rhagfyr bu inni gydymdeimlo â Mr Gerald Williams, 33 Bryn Stanley, yn ei brofedigaeth o golli’i frawd.  Meddyliwn amdano yn ein gweddïau.

............................................................................................

  

YSBYTAI

 

Y mae’r canlynol yn glaf mewn ysbyty ar hyn o bryd:-

  

Mrs Margaret Davies, Trem y Gaer, yn yr Inffyrmari

 

Mrs Doreen Evans, 6 Ffordd Las, yn yr Inffyrmari

 

  

Gartref o’r ysbyty y mae:-

  

Ms Medwen Griffiths, 24  Parc y Llan, Henllan

.....................................................................................

 

DIOLCH

  

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn am y cardiau, y galwadau ffôn a’r ymweliadau tra’r oeddwn yn yr ysbyty yn ystod y misoedd diwethaf.

  

Diolch o galon

Gwyneth Jones,

31 Stryd Henllan

............................................................................................

   

 

CYFARFODYDD GWEDDI DECHRAU’R FLWYDDYN

  

Yn ôl ein harfer byddwn yn cynnal tri chyfarfod gweddi yn ystod yr wythnos lawn gyntaf yn Ionawr.

 

Dyma’r trefniadau yn llawn

 

  

Nos Lun, Ionawr 5ed am 7 o’r gloch dan ofal y Cyfarfod Gweddi Cenhadol

 

  

Nos Fercher, Ionawr 7fed, am 7 o’r gloch

 

  

Nos Wener, Ionawr 9fed, am 7 o’r gloch dan ofal y Gymdeithas Lên a Cherdd

 

............................................................................................ 

  

WALED AMLENNI

 

Gyda’r rhifyn hwn o Dolen dylech dderbyn eich waled amlenni arferol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio eich hen amlenni ar ôl derbyn eich waled newydd.

 

............................................................................................

  

CORNEL Y CHWIORYDD

 

gyda Mair Jones

 

  

AELWYD Y CHWIORYDD

  

Cawsom gyfarfod arbennig ar Ragfyr 9fed i ddathlu Gŵyl y Geni. Croesawyd pawb gan Mrs Ann Parry gyda chroeso arbennig i’r Parchedig Gareth Roberts a’i briod.

  

Cafwyd eitemau gan bedwar o’n haelodau, sef Mrs Nerys Ann Roberts, Mrs Gaynor Morgan Rees, Mr John Manod Rees a Mr Stanley Lyall gyda Mrs Ann Parry yn gwau y cyfan wrth ei gilydd yn gelfydd iawn. Daethant â ni i ysbryd y Nadolig gyda’u darlleniadau, atgofion a charolau.

  

Roedd y merched wedi bod yn brysur fel arfer yn  paratoi te blasus a chafwyd prynhawn difyr iawn.

  

Cawsom hefyd gyfle i ddathlu gydag un o’n haelodau, sef Mr George Lloyd, a oedd yn cael penblwydd arbennig ar y diwrnod.

  

Diolchodd y llywydd i bawb.

  

Y CALENDR

 

Nos Lun, Ionawr 5

 

Cyfarfod Gweddi Cenhadol am 7 o’r gloch

  

Dydd Mawrth, Ionawr 6

 

Aelwyd y Chwiorydd am 1.30pm - Elen Lloyd a Llyr Jones yn sôn am waith Cam wrth Gam

 

  

Dydd Mawrth, Ionawr 20

 

Aelwyd y Chwiorydd am 1.30pm - Mrs Rhiannon Rogers yn dangos ei gwaith llaw

  

............................................................................................

 

BORE COFFI

 

Cofiwch am y Bore Coffi rhwng 10 ac 11 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, Ionawr 31ain. Bydd yr elw tuag at goffrau’r eglwys.

 

  

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ofalu am y Bore Coffi ar Chwefror 28ain. Os ydych chi’n gallu ymgymryd â’r dasg cysylltwch â Mr S. Lyall, os gwelwch yn dda.

 

............................................................................................

  

ADRAN Y PLANT

 

  

Yn gyntaf, ar ran pawb yn Y Capel Mawr diolch i chi am eich gwasanaeth Nadolig. Roedd hi’n bleser llwyr  eich gwylio yn cyflwyno neges drama’r geni. Gobeithio eich bod wedi cael parti Nadolig  llawn hwyl ar Ragfyr 30ain gyda Marc Whincup.

  

Mae’n siwr y byddwch chi i gyd yn  drist o weld un siop arbennig yn y dref hon yn cau am byth. Cyfeirio rydwi at y gangen leol o Woolworth, siop a fu’n bwysig iawn ym mywydau pob un ohonom ni ar hyd y blynyddoedd.

  

Yn wir, dyma’r unig siop roeddwn i’n hoffi ymweld â hi pan oeddwn i’n fychan – cyfle i lygadu’r teganau  a  llewni’r bag papur gyda’r hyn roedd gan y Pick’n Mix i’w gynnig. Llawer mwy diddorol nag unrhyw siop ddillad anniddorol neu rhyw hen siop lyfrau llychlyd.

  

Yn anffodus, daeth y bennod hon ym mywydau pob un ohonom i ben bellach. A dyna ydy bywyd – cyfnod arbennig yn gorffen a chyfnod newydd yn blaguro o’n blaenau. Rhywbeth tebyg ydy dechrau blwyddyn - cyfle inni edrych yn ôl ar y gorffennol, cadw ein harferion da a thaflu heibio ein gwendidau.

  

Fe soniais i  am deganau ynghynt. Wel, dyma restr o’r deg mwyaf poblogaidd ymhlith plant y Nadolig hwn, yn ôl y cyfrifiadur hwn:-

  

  

  1. Bakugan –gêm saethu
  2. Ben 10 Deluxe Omnitrix – oriawr hudol
  3. High School Musical 3 Musical Dancing Mat – mat dawnsio
  4. Catcha Beast – gêm electroneg
  5. Star Wars Clone Trooper Voice Changer – helmed hudol
  6. Rescue Pals Swim to Me Puppy  - ci bach
  7. Cupcake Maker – deunydd coginio
  8. Baby Born  with Magic Potty  - doli

     

  9. In the Night  Garden Upsy Daisy – doli a’i gwely
  10.  My Life – gêm boced

  

A gawsoch chi un o’r teganau hyn neu a wnaethoch  chi brynu un ohonyn-nhw i rywun arall?

  

Pob hwyl yn 2009.

  

  

  

  

  

  

  

  

 

Powered by Recipero Working together with BT