Eglwys Bresbyteraidd - Y Capel Mawr, Dinbych 

Adnod a Sylw

Jeremeia 6:16
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd: Safwch ar y ffyrdd; Edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys"

Wrth drafod y Ffordd a ffyrdd yn y Cylch Trafod, fe'n hatgoffwyd o'r newid sydd wedi digwydd ym myd ffyrdd ac arwyddion cyfoes. Ers talwm wrth ddod ar hyd ffordd i'r brif-ffordd, ceid yr arwydd "AROS" "STOP". Erbyn heddiw, mae wedi newid i "ILDIWCH" "GIVE WAY". Y cwestiwn a ofynwyd gan un o'r aelodau oedd "A ydym wedi mynd yn rhy barod i ildio erbyn hyn yn hytrach nag aros fel Cristnogion yn y Gymru Gymraeg gyfoes?
A ydym yn rhy barod i ildio ym myd crefydd, ym myd cymdeithasol ac yn y byd diwyllianol?
1 THESALONIAID 5-18

"Ymhob dim rhoddwch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi"

Sylw

Mae Paul yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn ddiolchgar, ac er mai gair bach pum llythyren ydy o, eto mae diolch yn cael dylanwad mawr ar bron bawb. Yr un modd wrth ysgwyd llaw, er mai gweithred fechan yw, eto mae peidio ag ysgwyd llaw yn gallu cael dylanwad gwahanol a hwnnw yn bell gyrhaeddol.
2 TIMOTHEUS 1-5

"Daw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice, dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd"

Sylw

Yn ei esboniad "Detholion o Genesis" mae'r Parchedig Noel E Davies yn ein hatgoffa mai gras ac nid tras a wnaeth Israel yn genedl etholeig - Eseciel 16-3 Gwir pob gair. Onid yw'n iawn dweud fod i ras ei dras ei hun sydd wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth oddi mewn i deuluoedd y Gymru Gymraeg hyd heddiw.
Powered by Recipero Working together with BT